R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn addysg ôl-16? OAQ(4)0588(ESK)
2. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfranogiad mewn dysgu gydol oes? OAQ(4)0591(ESK)
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r niferoedd sy'n dysgu ieithoedd tramor modern? OAQ(4)0589(ESK)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad addysgol pobl ifanc mwyaf difreintiedig Cymru? OAQ(4)0584(ESK)
5. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o addysg gerdd yng Nghymru? OAQ(4)0580(ESK)
6. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran annog mwy o bobl i astudio pynciau STEM? OAQ(4)0594(ESK)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch benthyciadau i astudio graddau ôl-radd? OAQ(4)0593(ESK)W
8. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru? OAQ(4)0592(ESK)
9. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0585(ESK)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid i sefydliadau addysg uwch? OAQ(4)0586(ESK)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi athrawon i ddiogelu disgyblion mewn ysgolion? OAQ(4)0582(ESK)
12. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Pa fesurau newydd penodol sydd gan y Gweinidog yn eu lle i ddenu mwy o fyfyrwyr ymchwil lefel uwch i Gymru? OAQ(4)0587(ESK)W
13. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o addysg ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol dwys? OAQ(4)0590(ESK)R
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i rôl ysgolion yng Nghymru wrth baratoi disgyblion ar gyfer gwaith? OAQ(4)0583(ESK)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau allweddol ar gyfer addysg yn Sir Benfro? OAQ(4)0578(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0569(EST)
2. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen fanwl ar gyfer y penderfyniad terfynol ar weithrediad ffordd ymuno tua’r gorllewin cyffordd 41 yr M4 yn y dyfodol? OAQ(4)0581(EST)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau bach sy'n cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd taliadau hwyr a wneir iddynt gan gwmnïau eraill? OAQ(4)0572(EST)
4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynllun rhyddhad manwerthu Cymru? OAQ(4)0579(EST)
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant manwerthu trwm a'i weithle yng Nghymru? OAQ(4)0580(EST)
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rwydwaith ffyrdd gogledd Cymru? OAQ(4)0571(EST)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ein treftadaeth ddiwydiannol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0577(EST)W
8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith gweithredu adroddiad McNulty ar ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(4)0578(EST)
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i annog mwy o siopau bach a stondinau yng nghanol ein trefi a dinasoedd? OAQ(4)0567(EST)
10. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y bydd datblygu Metro De Cymru arfaethedig yn ei chael ar Gaerffili? OAQ(4)0576(EST)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y diwydiant manwerthu yng Nghymru? OAQ(4)0575(EST)
12. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am annog pobl i ddefnyddio parc lorïau newydd Caergybi? OAQ(4)0570(EST)W
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0566(EST)
14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am gynnydd Rhanbarth Dinas Bae Abertawe? OAQ(4)0574(EST)
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau arfaethedig yn SA1? OAQ(4)0573(EST)